2013 Rhif 2591 (Cy. 255)

BWYD, cymru

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1. Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys i Gymru, yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliadau canlynol yr UE—

(a)     Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau mwg a ddefnyddir neu a fwriedir i’w defnyddio mewn bwydydd neu arnynt (OJ Rhif L309, 26.11.2003, t.1);

(b)     Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ensymau bwyd (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.7);

(c)     Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.16);

(d)     Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol ac iddynt briodweddau cyflasyn i’w defnyddio mewn bwydydd ac arnynt (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.34).

2. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gweithredu Cyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynghylch toddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunyddiau bwyd a chynhwysion bwyd (OJ Rhif L141, 6.6.2009, t.3).

3. Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, y Rheoliadau a ganlyn—

(a)     Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993 (O.S. 1993/1658);

(b)     Rheoliadau Cyflasynnau Mwg (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1350 (Cy.98));

(c)     Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) (Rhif 2) 2007 (O.S. 2007/23315 (Cy.186));

(d)     Rheoliadau Ensymau Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3377 (Cy.299));

(e)     Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3378 (Cy.300));

(f)      Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1198 (Cy.2922)).

4. Mae’r Rheoliadau hyn, yn Rhan 2, yn darparu mai trosedd, yn ddarostyngedig i unrhyw drefniadau trosiannol sy’n gymwys, yw torri gofynion penodol yn y canlynol neu ddefnyddio cynnyrch neu osod ar y farchnad gynnyrch sy’n torri gofynion penodol yn y canlynol—

(a)     Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 ynghylch ychwanegion bwyd (rheoliad 3 a Thabl 1 o Atodlen 1);

(b)     Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 ynghylch cyflasynnau bwyd a bwydydd ac iddynt briodweddau cyflasyn (rheoliad 4 a Thabl 1 o Atodlen 2);

(c)     Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 ynghylch cyflasynnau mwg (rheoliad 5 a Thabl 1 o Atodlen 3); a

(d)     Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 ynghylch ensymau bwyd (rheoliad 6 a Thabl 1 o Atodlen 4).

5. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu yn Rhan 2 y caiff swyddog awdurdodedig o awdurdod gorfodi, yn achos mathau penodol o ddiffyg cydymffurfio, o ran labelu, gyflwyno hysbysiad gwella sy’n ei gwneud yn ofynnol i gamau penodol gael eu cymryd, ac yn niffyg hynny y bydd trosedd wedi ei gyflawni (rheoliad 7 a Thabl 2 o Atodlenni 1 i 4). Caiff person y cyflwynir hysbysiad gwella iddo apelio yn ei erbyn i lys ynadon (rheoliad 8).

6. Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2009/32/EC ynghylch toddyddion echdynnu, drwy wneud y canlynol yn benodol—

(a)     pennu’r amgylchiadau lle nad yw’r rheolaethau ar doddyddion echdynnu yn gymwys (rheoliad 10);

(b)     diffinio beth yw toddydd echdynnu a ganiateir (rheoliad 11);

(c)     gwahardd unrhyw berson rhag defnyddio toddydd echdynnu heblaw toddydd echdynnu a ganiateir, fel y’i diffinnir, wrth gynhyrchu bwyd (rheoliad 12);

(d)     gwahardd unrhyw berson rhag gosod ar y farchnad doddydd echdynnu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir neu nad oes gwybodaeth benodol yn cyd-fynd ag ef ar y pecyn, y cynhwysydd neu’r label (rheoliadau 13 a 14).

7. Mae’r Rheoliadau hyn yn Rhan 4 —

(a)     yn dynodi’r Asiantaeth Safonau Bwyd fel yr awdurdod cymwys at ddibenion ceisiadau am awdurdodi cyflasyn mwg (rheoliad 15);

(b)     yn rhoi’r ddyletswydd o orfodi’r Rheoliadau hyn i awdurdodau bwyd (rheoliad 16);

(c)     yn darparu ar gyfer y gosb uchaf y gall person fod yn agored iddi o’i gollfarnu am drosedd o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 17);

(d)     yn darparu, lle’r ardystir bod bwyd yn fwyd y mae’n drosedd ei osod ar y farchnad, y trinnir y bwyd at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel petai’n methu â chydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd (rheoliad 18); ac

(e)     yn cymhwyso, ag addasiadau penodol, amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 19).

8. Mae’r Rheoliadau hyn yn Rhan 5 —

(a)     yn gwneud mân ddiwygiad i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (rheoliad 20); a

(b)     yn dirymu offerynnau penodol yn gyfan gwbl neu’n rhannol (rheoliad 21 ac Atodlen 5).     

9.  Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

 


2013 Rhif 2591 (Cy. 255)

BWYD, cymru

Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

Gwnaed                                  7 Hydref 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       9 Hydref 2013

Yn dod i rym                          31 Hydref 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a),(e) ac (f),17(1) a (2), 26(1), (2)(e) ac (f) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990([1]) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy([2]), fel y’u darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([3]).

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad i unrhyw rai o offerynnau’r UE a bennir yn rheoliad 2(4) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw fel y’u diwygiwyd o dro i dro.

Yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd([4]), cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw wrth i’r Rheoliadau hyn gael eu paratoi a’u gwerthuso.

RHAN 1

Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Hydref 2013.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw —

(a)     cyngor sir; a

(b)     cyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “Cyfarwyddeb 2009/32” (“Directive 2009/32”) yw Cyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynghylch toddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunyddiau bwyd a chynhwysion bwyd([5]);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “Rheoliad 2065/2003” (“Rheoliad 2065/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau mwg a ddefnyddir neu a fwriedir i’w defnyddio mewn bwydydd neu arnynt([6]);

ystyr “Rheoliad 1332/2008” (“Rheoliad 1332/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ensymau bwyd ([7]);

ystyr “Rheoliad 1333/2008” (“Rheoliad 1333/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd([8]), fel y’i darllenir gyda’r canlynol —

(c)     Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1129/2011 sy’n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy sefydlu rhestr i’r Undeb o ychwanegion bwyd([9]),

(d)     Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1130/2011 sy’n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd drwy sefydlu rhestr i’r Undeb o ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd a maetholion([10]), ac

(e)     Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 sy’n nodi manylebau ar gyfer ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor([11]);

ystyr “Rheoliad 1334/2008” (“Rheoliad 1334/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol ac iddynt briodweddau cyflasyn bwyd i’w defnyddio mewn bwydydd ac arnynt([12]), fel y’i darllenir gyda Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 873/2012 ynghylch mesurau trosiannol sy’n ymwneud â rhestr yr Undeb o gyflasynnau a deunyddiau ffynhonnell a nodir yn Atodiad I i Reoliad (EC) 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor([13]);

ystyr “Rheoliadau’r UE” (“the EU Regulations”) yw Rheoliad 2065/2003, Rheoliad 1332/2008, Rheoliad 1333/2008 a Rheoliad 1334/2008;

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi mewn ysgrifen, naill ai yn gyffredinol neu’n benodol, gan awdurdod bwyd i weithredu mewn materion sy’n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn offerynnau’r UE sydd wedi eu rhestru ym mharagraff (4) yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn yr offerynnau hynny.

(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl neu Atodiad i unrhyw rai o offerynnau’r UE a restrir ym mharagraff (4) yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw fel y’u diwygiwyd o dro i dro.

(4) Offerynnau’r UE yw Cyfarwyddeb 2009/32, Rheoliad 2065/2003, Rheoliad (EC) Rhif 1331/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn sefydlu gweithdrefn awdurdodi gyffredin ynglŷn ag ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd([14]), Rheoliad 1332/2008, Rheoliad 1333/2008 a Rheoliad 1334/2008.

(5) Pan aseinir unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf—

(a)     drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984([15]), i awdurdod iechyd porthladd; neu

(b)     drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936([16]), i gyd-fwrdd ardal unedig;

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i’w ddehongli, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi eu haseinio felly iddo.

RHAN 2

Ychwanegion, cyflasynnau ac ensymau bwyd

Trosedd torri gofynion yr UE ynghylch ychwanegion bwyd

3. Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1333/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 1, fel y’i darllenir gyda mesurau trosiannol a geir yn y Rheoliad hwnnw neu sydd i’w darllen gydag ef, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.

Trosedd torri gofynion yr UE ynghylch cyflasynnau, gan gynnwys cyflasynnau mwg

4. Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1334/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 2, fel y’i darllenir gydag Erthygl 4 (sylweddau cyflasu sydd wrthi’n cael eu gwerthuso) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 872/2012 yn mabwysiadu’r rhestr o sylweddau cyflasu y darperir ar ei chyfer gan Reoliad (EC) Rhif 2232/96 Senedd Ewrop a’r Cyngor([17]) a chyda mesurau trosiannol a geir yn Rheoliad 1334/2008 neu sydd i’w darllen gydag ef, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.

5. Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 2065/2003 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 3, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.

Trosedd torri gofynion yr UE ynghylch ensymau bwyd

6. Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1332/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 4, fel y’i darllenir gydag Erthyglau 18 a 24 (mesurau trosiannol) neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.

Hysbysiadau gwella – cymhwyso is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

7.(1) Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn.

(2) Yn lle is-adran (1), rhodder—

“(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a provision of the Food Additives, Flavourings, Enzymes and Extraction Solvents (Wales) Regulations 2013 specified in paragraph (1A), the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)   state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;

(b)   specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;

(c)   specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)   require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.

(1A) Any EU provision specified in the first column of Table 2 of—

(a)   Schedule 1;

(b)   Schedule 2;

(c)   Schedule 3; or

(d)   Schedule 4; or

(e)   regulation 13(2)”.

Apelio yn erbyn hysbysiad gwella – cymhwyso is-adrannau (1) a (6) o adran 37 ac adran 39 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

8.—(1) Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf (apelio) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn

(a)     yn lle is-adran (1), rhodder—

“(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by rheoliad 7 of the Food Additives, Flavourings, Enzymes and Extraction Solvents (Wales) Regulations 2013, may appeal to a magistrates court.”; a

(b)     yn is-adran (6), yn lle “(3) or (4)”, rhodder “(1), (3) or (4)”.

RHAN 3

Toddyddion echdynnu

Rheolaethau ar doddyddion echdynnu

9. Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw yng Nghyfarwyddeb 2009/32.

10. Nid yw darpariaethau’r Rhan hon yn gymwys i unrhyw doddydd echdynnu—

(a)     a ddefnyddir wrth gynhyrchu unrhyw ychwanegion bwyd, fitaminau neu unrhyw ychwanegion maethol eraill, oni bai bod yr ychwanegion bwyd, y fitaminau neu’r ychwanegion maethol eraill hynny wedi eu rhestru yn Atodiad I; neu

(b)     y bwriedir ei allforio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

11. Yn y Rhan hon ystyr “toddydd echdynnu a ganiateir” yw —

(a)     toddydd echdynnu—

                           (i)    a restrir yn Atodiad I,

                         (ii)    a ddefnyddir yn unol â’r amodau defnyddio ac o fewn unrhyw derfynau uchaf ynglŷn â gweddillion a bennir yn yr Atodiad hwnnw,

                       (iii)    nad yw’n cynnwys swm sy’n beryglus yn wenwynegol o unrhyw elfen neu sylwedd,

                        (iv)    nad yw, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau sy’n deillio o feini prawf penodol ynglŷn â phurdeb, yn cynnwys mwy nag 1 mg/kg o arsenig neu fwy nag 1 mg/kg o blwm, a

                          (v)    sy’n bodloni gofynion Erthygl 3(c) o ran y meini prawf ynglŷn â phurdeb; neu

(b)     dŵr y gall sylweddau sy’n rheoleiddio asidedd neu alcalinedd fod wedi eu hychwanegu iddo; neu

(c)     sylweddau bwyd sydd â phriodweddau toddydd.

12. Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw doddydd echdynnu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir yn doddydd echdynnu wrth gynhyrchu bwyd.

13.(1)(1) Ni chaiff unrhyw berson osod ar y farchnad—

(a)     toddydd echdynnu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir; na

(b)     unrhyw fwyd ac ynddo neu arno doddydd echdynnu wedi ei ychwanegu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir.

(2) Ni chaiff unrhyw berson osod ar y farchnad doddydd echdynnu nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 14.

14.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r wybodaeth a ganlyn ymddangos ar y pecyn, y cynhwysydd neu’r label —

(a)     yr enw masnachol fel y’i nodir yn Atodiad I;

(b)     awgrym clir bod y deunydd o ansawdd sy’n addas i’w defnyddio at echdynnu bwyd neu gynhwysion bwyd;

(c)     cyfeiriad a all gael ei ddefnyddio i adnabod y swp neu’r lot;

(d)     enw neu enw busnes a chyfeiriad y gweithgynhyrchydd neu’r paciwr neu enw neu enw busnes a chyfeiriad gwerthwr sydd wedi ei sefydlu yn nhiriogaeth yr UE;

(e)     y swm net ar ffurf unedau o gyfaint; ac

(f)      os oes angen hynny, yr amodau storio arbennig neu’r amodau defnyddio.

(2) Caniateir i’r manylion a bennir yn is-baragraffau (c), (d), (e) ac (f) o baragraff (1) ymddangos fel arall ar y dogfennau masnach sy’n cyfeirio at y swp neu’r lot y maent i’w cyflenwi gydag ef wrth eu dosbarthu neu cyn eu dosbarthu.

(3) Rhaid i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) fod yn hawdd i’w weld, yn glir i’w ddarllen ac yn annileadwy.

(4) Caniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) gael ei darparu mewn mwy nag un iaith, ond rhaid i un o leiaf o’r ieithoedd hynny fod yn hawdd i’r prynwr ei deall oni bai bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau bod y prynwr yn cael gwybod am yr wybodaeth benodedig.

RHAN 4

Gweinyddu a gorfodi

Awdurdodau cymwys

15. Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw’r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 7 o Reoliad 2065/2003.

Awdurdodau gorfodi

16. Dyletswydd pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn a Rheoliadau’r UE yn ei ardal neu ei ranbarth.

Troseddu a chosbi

17.(1)(1) Mae unrhyw berson sy’n torri rheoliad 12 neu 13(1) yn cyflawni trosedd.

(2) Mae unrhyw berson sy’n euog o drosedd o dan reoliad 3, 4, 5, 6, 7(4) neu 17(1) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Condemnio bwyd

18. Os bydd dadansoddydd bwyd yn ardystio bod unrhyw fwyd yn fwyd y mae’n drosedd ei osod ar y farchnad, rhaid trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o’r Ddeddf (y caniateir i fwyd gael ei atafaelu a’i ddifa ar orchymyn ynad heddwch odani) fel bwyd sy’n methu cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.

Cymhwyso amryw o ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990

19.(1)(1) Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i’w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

(a)     adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);

(b)     adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)([18]) gyda’r addasiad—

                           (i)    bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys o ran trosedd o dan reoliad 3, 4, 5, 6, 7(4) neu 17(1) fel y maent yn gymwys o ran trosedd o dan adran 14 neu 15, a

                         (ii)    y bernir bod y cyfeiriadau yn is-adran (4) at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;

(c)     adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)     adran 35(1) (cosbi troseddau)([19]), i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(1) fel y’i cymhwysir gan baragraff (3)(b);

(e)     adran 35(2) a (3)([20]), i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(2) fel y’i cymhwysir gan baragraff (3)(c);

(f)      adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol); ac

(g)     adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)([21]).

(2) Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf i’w ddehongli fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at Reoliadau’r UE a’r Rheoliadau hyn—

(a)     adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi ei fwriadu i bobl ei fwyta) gyda’r addasiad y bernir bod y cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market” yn y drefn honno;

(b)     adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(c)     adran 33(2), gyda’r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o’r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (b); a

(d)     adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll).

(3) Mae adran 34 o’r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyniadau) yn gymwys i droseddau o dan y Rheoliadau hyn fel y mae’n gymwys i droseddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o’r Ddeddf.

RHAN 5

Cyffredinol

Diwygiadau canlyniadol ac eraill

20. Yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996([22]), yn y diffiniad o “the additives regulations” hepgorer yr ymadrodd “the Food Additives (Wales) Regulations 1999,”.

Dirymu

21. Dirymir yr offerynnau a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 5 i’r graddau a bennir yn yr ail golofn.

 

 

Mark Drakeford

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gweinidog, un o Weinidogion Cymru

7 Hydref 2013


ATODLEN 1 Rheoliadau 3 a 7

Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 1333/2008

 

Tabl 1

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1333/2008

Y pwnc

Erthygl 4.1 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 11.3 ac 11.4, 12, 13.2 a 18.1(a), 18.2 a 18.3)

Gofyniad mai dim ond ychwanegion bwyd a gynhwysir yn y rhestr yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008 a osodir ar y farchnad fel y cyfryw, ac y’u defnyddir yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr Erthyglau hynny a’r Atodiad hwnnw.

Erthygl 4.2 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12, 13.2 a 18.3)

Gofyniad mai dim ond ychwanegion bwyd a gynhwysir yn y rhestr yn Atodiad III i Reoliad 1333/2008 y caniateir eu defnyddio mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd a maetholion a hynny o dan yr amodau defnyddio a bennir yn yr Atodiad hwnnw.

Erthygl 4.5

Gofyniad bod rhaid i ychwanegion bwyd gydymffurfio â’r manylebau y cyfeirir atynt yn Erthygl 14 o Reoliad 1333/2008.

Erthygl 5

Gwaharddiad ar osod ar y farchnad ychwanegion bwyd neu fwyd sy’n cynnwys ychwanegion bwyd, os nad yw defnyddio’r ychwanegyn bwyd yn cydymffurfio â Rheoliad 1333/2008.

Erthygl 11.2

Gofyniad bod rhaid defnyddio ychwanegion bwyd yn unol ag egwyddor quantum satis pan nad oes lefel uchaf rhifiadol wedi ei phennu ar gyfer yr ychwanegyn o dan sylw.

Erthygl 15

Gwaharddiad ar ddefnyddio ychwanegion bwyd mewn bwydydd nas prosesir ac eithrio fel y darperir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008.

Erthygl 16

Gwaharddiad ar ddefnyddio ychwanegion bwyd mewn bwydydd ar gyfer babanod a phlant ifanc (gan gynnwys bwydydd dietegol i fabanod a phlant ifanc at ddibenion meddygol arbennig) ac eithrio fel y darperir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008.

Erthygl 17

Gofyniad bod rhaid defnyddio dim ond y lliwiau bwyd hynny a restrir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008, at ddibenion marcio iechyd ar gig neu gynhyrchion cig, lliwio addurniadol ar blisgyn wyau neu stampio plisgyn wyau.

Erthygl 18.1(b) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 18.2)

Gofyniad na chaiff ychwanegion bwyd fod yn bresennol mewn bwyd yr ychwanegwyd ychwanegyn bwyd, ensym bwyd neu gyflasyn bwyd ato, onid yw’r ychwanegyn yn un a ganiateir yn yr ychwanegyn, yr ensym neu’r cyflasyn o dan Reoliad 1333/2008, ei fod wedi ei gludo drosodd i’r bwyd drwy gyfrwng yr ychwanegyn, yr ensym neu’r cyflasyn, ac nad oes iddo swyddogaeth dechnolegol yn y bwyd terfynol.

Erthygl 18.1(c) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 18.2)

Gofyniad na chaiff ychwanegion bwyd fod yn bresennol mewn bwydydd sydd i’w defnyddio yn unig i baratoi bwyd cyfansawdd, oni fydd y bwyd cyfansawdd yn cydymffurfio â Rheoliad 1333/2008.

Erthygl 18.4

Gofyniad na chaniateir defnyddio ychwanegion bwyd yn felysyddion mewn bwydydd cyfansawdd sydd heb siwgrau ychwanegol, bwydydd cyfansawdd ynni is sydd heb siwgrau ychwanegol, bwydydd cyfansawdd ynni is, bwydydd dietegol cyfansawdd a fwriedir ar gyfer dietau calorïau isel, bwydydd cyfansawdd gwrth-gariogenig a bwydydd cyfansawdd sydd ag oes silff estynedig, oni fydd y melysydd yn un a ganiateir yn unrhyw un o gynhwysion y bwyd cyfansawdd.

Erthygl 26.1

Gofyniad bod rhaid i gynhyrchwyr a defnyddwyr ychwanegion bwyd hysbysu’r Comisiwn ar unwaith ynghylch unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai effeithio ar yr asesiad o ddiogelwch yr ychwanegyn bwyd o dan sylw.

 

Tabl 2

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1333/2008

Y pwnc

Erthygl 21.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 22)

Gofyniad bod rhaid i ychwanegion bwyd na fwriedir eu gwerthu i’r defnyddwyr terfynol gael eu labelu, yn unol ag Erthygl 22 o Reoliad 1333/2008, yn weladwy, yn glir i’w darllen ac yn annileadwy mewn iaith a ddeellir yn hawdd gan y prynwyr.

Erthygl 23.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 23.2 and 23.5)

Gwaharddiad ar farchnata ychwanegion bwyd, a werthir yn unigol neu’n gymysg â’i gilydd a/neu’n gymysg â chynhwysion bwyd eraill, ac y bwriedir eu gwerthu i’r defnyddwyr terfynol, oni ddangosir gwybodaeth benodedig ar eu pecynnau.

Erthygl 23.3 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 23.5)

Gofyniad bod y labeli ar felysyddion pen-bwrdd sy’n cynnwys polyolau a/neu aspartame a/neu halen aspartame – acesulfame yn cynnwys rhybuddion penodedig

Erthygl 23.4

Gofyniad bod rhaid i weithgynhyrchwyr melysyddion pen-bwrdd drefnu, drwy fodd priodol, fod yr wybodaeth ar gael sy’n angenrheidiol er mwyn i ddefnyddwyr eu defnyddio’n ddiogel.

Erthygl 24.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 24.2)

Gofyniad y dylai labeli’r bwyd sy’n cynnwys y lliwiau a restrir yn Atodiad V gynnwys yr wybodaeth ychwanegol a bennir yn yr Atodiad hwnnw.

Erthygl 26.2

Gofyniad bod cynhyrchwyr a defnyddwyr ychwanegion bwyd, ar gais y Comisiwn, yn ei hysbysu ynghylch y defnydd gwirioneddol o’r ychwanegyn bwyd o dan sylw

                                                       


ATODLEN 2 Rheoliadau 4 a 7

Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 1334/2008

 

Tabl 1

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1334/2008

Y pwnc

Erthygl 4

Gofyniad bod rhaid i’r defnydd ar gyflasynnau bwyd neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn beidio â pheri risg i ddiogelwch na chamarwain y defnyddiwr.

Erthygl 5

Gwaharddiad ar osod cyflasynnau nad ydynt yn cydymffurfio neu fwyd nad yw’n cydymffurfio ar y farchnad.

Erthygl 6.1 (fel y’i darllenir gyda Rhan A o Atodiad III)

Gwaharddiad ar ychwanegu sylweddau penodol a bennwyd fel y cyfryw mewn bwydydd.

Erthygl 6.2 (fel y’i darllenir gyda Rhan B o Atodiad III)

Gofyniad na ddylai sylweddau penodol sy’n bresennol yn naturiol mewn cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn fod yn uwch na lefelau penodedig mewn bwydydd cyfansawdd o ganlyniad i ddefnyddio cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn.

Erthygl 7.1 (fel y’i darllenir gyda Rhan A o Atodiad IV)

Gwaharddiad ar ddefnyddio deunyddiau ffynhonnell penodol i gynhyrchu cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn.

Erthygl 7.2 (fel y’i darllenir gyda Rhan B o Atodiad IV)

Cyfyngiadau ar ddefnyddio cyflasynnau neu gynhwysion bwyd ac iddynt briodweddau cyflasyn a gynhyrchir o ddeunyddiau ffynhonnell penodol.

Erthygl 10

Cyfyngiad ar osod ar y farchnad neu ddefnyddio cyflasynnau a deunyddiau ffynhonnell sydd heb eu cynnwys ar restr yr Undeb.

Erthygl 19.2

Gofyniad bod rhaid i gynhyrchydd neu ddefnyddiwr cyflasyn a gymeradwywyd sy’n cael ei baratoi drwy ddulliau cynhyrchu neu drwy ddefnyddio deunyddiau cychwynnol sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gynhwyswyd yn yr asesiad risg gyflwyno’r data angenrheidiol i’r Comisiwn i ganiatáu gwerthusiad o ran y dull cynhyrchu neu’r priodweddau diwygiedig cyn marchnata’r cyflasyn.

Erthygl 19.3

Gofyniad ar weithredwyr busnesau bwyd i hysbysu’r Comisiwn ar unwaith os cânt wybod am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai effeithio ar asesiad diogelwch sylwedd cyflasu.

 

Tabl 2

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1334/2008

Y pwnc

Erthygl 14.1 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 15 ac 16)

Gofynion ynghylch labelu cyflasynnau na fwriedir eu gwerthu i’r defnyddiwr terfynol.

Erthygl 17 (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 15.1(a) ac (16)

Gofynion ynghylch labelu cyflasynnau y bwriedir eu gwerthu i’r defnyddiwr terfynol.

ATODLEN 3 Rheoliadau 5 a 7

Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 2065/2003

Tabl 1

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 2065/2003

Y pwnc

Erthygl 4.2

Gwaharddiad ar farchnata cyflasyn mwg nad yw ar y rhestr o gyflasynnau mwg awdurdodedig, neu unrhyw fwyd y mae cyflasyn mwg o’r fath yn bresennol ynddo neu arno.

Erthygl 4.2

Gwaharddiad ar farchnata cyflasyn mwg awdurdodedig, neu unrhyw fwyd y mae cyflasyn mwg o’r fath yn bresennol ynddo neu arno, ac eithrio yn unol ag unrhyw amodau defnyddio a osodwyd yn yr awdurdodiad.

Erthygl 5.1, yr is-baragraff cyntaf

Gwaharddiad ar ddefnyddio pren wedi ei drin, oni ellir dangos drwy dystysgrif neu ddogfennaeth briodol nad yw’r sylwedd a ddefnyddir i drin y pren yn peri sylweddau a allai fod yn wenwynig wrth iddo ymlosgi.

Erthygl 5.1, yr ail is-baragraff

Gofyniad bod rhaid gallu dangos drwy ddogfennaeth neu dystysgrif y cydymffurfiwyd â’r gwaharddiad ym mharagraff cyntaf Erthygl 5.1

Erthygl 5.2, y frawddeg gyntaf

Gofyniad bod rhaid cydymffurfio â’r amodau yn Atodiad 1 wrth gynhyrchu cynhyrchion sylfaenol (cyddwysiadau mwg sylfaenol neu ffracsiynau tar sylfaenol)

Erthygl 5.2, yr ail frawddeg

Gwaharddiad ar ddefnyddio’r cyfnod olewaidd annhoddadwy mewn dŵr wrth gynhyrchu cyflasynnau mwg.

Erthygl 9.4

Gofyniad bod rhaid i ddeiliad awdurdodiad neu unrhyw weithredydd busnes bwyd arall, sy’n defnyddio cynnyrch awdurdodedig, neu gyflasyn mwg deilliedig a gynhyrchir o gynnyrch awdurdodedig, gydymffurfio ag unrhyw amodau neu gyfyngiadau sydd ynghlwm wrth yr awdurdodiad

Erthygl 9.5

Gofyniad bod rhaid i ddeiliad awdurdodiad hysbysu’r Comisiwn am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd sy’n ymwneud â chynnyrch awdurdodedig, ac a allai ddylanwadu ar werthuso diogelwch y cynnyrch awdurdodedig hwnnw

Tabl 2

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 2065/2003

Y pwnc

Erthygl 13.1

Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau y trosglwyddir yr wybodaeth benodedig i’r gweithredydd busnes bwyd sy’n derbyn y cynnyrch pan osodir y cynnyrch ar y farchnad am y tro cyntaf

Erthygl 13.2

Gofyniad, yn sgil gosod cynnyrch ar y farchnad am y tro cyntaf, fod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sy’n gosod y cynhyrchion ar y farchnad drosglwyddo’r wybodaeth benodedig yn Erthygl 13.1 i’r gweithredwyr busnes bwyd sy’n derbyn y cynnyrch, bob tro y rhoddir y cynnyrch ar y farchnad

ATODLEN 4 Rheoliadau 6 a 7

Darpariaethau penodedig yn Rheoliad 1332/2008

 

Tabl 1

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1332/2008

Y pwnc

Erthygl 4

Gofyniad na chaniateir gosod ensymau bwyd ar y farchnad fel y cyfryw na’u defnyddio mewn bwydydd oni bai eu bod yn ymddangos yn rhestr yr Undeb o ensymau awdurdodedig y darperir ar ei chyfer yn Erthygl 17 ac yn unol â’r manylebau a’r amodau defnyddio penodedig.

Erthygl 5

Gwaharddiad ar osod ar y farchnad ensymau bwyd nad ydynt yn cydymffurfio neu fwydydd sy’n cynnwys ensymau o’r fath nad ydynt yn cydymffurfio â Rheoliad 1332/2008 a’i fesurau gweithredu.

Erthygl 14.1

Gofyniad bod rhaid i gynhyrchydd neu ddefnyddiwr ensym bwyd hysbysu’r Comisiwn ar unwaith am unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai effeithio ar ei asesiad diogelwch.

Erthygl 14.2

Gofyniad bod rhaid i gynhyrchydd neu ddefnyddiwr ensym bwyd a gymeradwywyd sy’n cael ei baratoi drwy ddulliau cynhyrchu neu drwy ddefnyddio deunyddiau cychwynnol sy’n wahanol i’r rhai a gynhwyswyd yn yr asesiad risg gyflwyno’r data angenrheidiol i’r Comisiwn i ganiatáu gwerthusiad o ran y dull cynhyrchu neu’r priodweddau diwygiedig cyn marchnata’r ensym.

 

Tabl 2

Y ddarpariaeth yn Rheoliad 1332/2008

Y pwnc

Erthygl 10.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 11)

Gofynion ynghylch labelu ensymau a pharatoadau bwyd na fwriedir eu gwerthu i’r defnyddiwr terfynol.

Erthygl 12.1

Gofynion ynghylch labelu ensymau a pharatoadau bwyd y bwriedir eu gwerthu i’r defnyddiwr terfynol.

ATODLEN 5 Rheoliad 21

Dirymu

 

Enw’r offeryn

Graddfa’r dirymu

Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd 1993 (O.S. 1993/1658)

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) 1995 (O.S. 1995/1440)

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/2257)

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Toddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1849 (Cy.199))

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Cyflasynnau Mwg (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1350 (Cy.98))

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Bwyd (Atal Defnyddio E 128 Red 2G fel Lliw Bwyd) (Cymru) (Rhif 2) 2007 (O.S. 2007/2315 (Cy.186))

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Ensymau Bwyd 2009 (O.S. 2009/3377 (Cy.299))

Rheoliadau 3, 4, 5, 6, 7(2)(b) ac 8

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3378 (Cy.300))

Pob darpariaeth ac eithrio rheoliadau 1, 2, 18(4) a 19

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) 2011 (O.S. 2011/655 (Cy.93))

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2011 (O.S. 2011/1450 (Cy.172))

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) (Diwygio) a Thoddyddion Echdynnu mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) (O.S. 2012/1198 (Cy.148))

Y Rheoliadau cyfan

Rheoliadau Cyflasynnau mewn Bwyd (Cymru) 2010 (O.S. 2010/2922 (Cy.243))

Pob darpariaeth ac eithrio rheoliadau 1, 2 a 7.

 

 



([1])           1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn y drefn honno o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999, O.S. 2004/2990 ac O.S. 2004/3279.

([2])           Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), a’u trosglwyddo wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

 

([3])           1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006, p.51) a’i ddiwygio gan Ran 1 o’r Atodlen i ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (2008 p.7).

([4])           OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n addasu nifer o offerynnau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o’r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i’r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu - Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14). 

([5])           OJ Rhif L141, 6.6.2009, t.3. Diwygiwyd yr offeryn hwn gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2010/59/EU (OJ Rhif L225, 27.8.2010, t.10).

([6])           OJ Rhif L309, 26.11.2003, t.1. Diwygiwyd yr offeryn hwn gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

([7])           OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.7. Diwygiwyd yr offeryn hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1056/2012 (OJ Rhif L313, 13.11.2012, t.9).

([8])           OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.16. Diwygiwyd yr offeryn hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 510/2013 (OJ Rhif L150, 4.6.2013, t.17).

([9])           OJ Rhif L295, 12.11.2011, t.1.

([10])         OJ Rhif L295, 12.11.2011, t.178.

([11])         OJ Rhif L83, 22.3.2012, t.1. Diwygiwyd yr offeryn hwn ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 497/2013 (OJ Rhif L143, 30.5.2013, t.20).

([12])         OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.34. Diwygiwyd yr offeryn hwn ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 545/2013 (OJ Rhif L163, 15.6.2013, t.15).

([13])         OJ Rhif L267, 2.10.2012, t.162.

([14])         OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.1. Rhoddwyd yr offeryn hwn ar waith gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 234/2011 (OJ Rhif L64, 11.03.2011, t.15) ac mae’r Rheoliad hwnnw wedi ei ddiwygio gan reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 562/2012 (OJ Rhif L168, 28.06.2012, t.2).

([15])         1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16).

([16])         1936 p.49; mae adran 6 i’w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

([17])         OJ Rhif L267, 2.10.2012, t.1.

([18])         Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

([19])         Diwygiwyd adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i’w bennu.

([20])         Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

([21])         Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.

([22])         O.S. 1996/1499. Offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2010/2817 a 2012/2619.